Welsh
Mae Church Stretton, gyda’r pentrefi prydferth o’i amgylch, yn ganolfan ardderchog i’r rhai sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored ym mhob tymor. Mae llwybrau wedi’w mapio i’r cerddwyr, beiciau mynydd, ceffylau a’r naturiaethwyr. Mae Long Mynd, sydd i’r gorllewin o’r dref, yn enwog am ei gleidio, hang gleidio a paragleidio heb sôn mai yma mae’r cwrs golff ucchaf yn Lloegr. Mae Mary Webb, A.E Housman a Malcom Saville yn sôn am yr ardal brydferth gyda’i golygfeydd anhygoel yn eu llyfrau.
Gan fod Church Stretton hanner ffordd rhwng Amwythig a Llwydio mae’n ganolfan ardderchog i ymweld â nifer o drefi hanesyddol, cestyll, amgeuddfeydd a mannau eraill o ddiddordeb a’r cyfan o fewn ardal hardd o 15 milltir. Mae dewis helaeth o lety, tai bwyta, tarfarndai a siopau o safon uchel yn yr ardal.
Gellir cyrraedd Church Stretton yn rhwydd o’r briffordd A49 a’r rheilffordd Manceinion i Gaerdydd gan gysylltu â’r gwasanaeth bws lleol. Dim ond dwy awr o deithia sydd o faes awyr Birmingham, Manceinion a Lerpwl.
Gellir eich sicrhau bod pob math o weithganeddau ar gael i ymwelwyr yn ardal Church Stretton gyda rhywbeth ar gyfer pob oed a diddordeb.
Please leave us your comments or sign our guestbook. 
 |